Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12498
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gofynnwyd y 2 gwestiwn.
4 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gwnaeth Luke Fletcher ddatganiad ar Bantri Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwnaeth James Evans ddatganiad ar Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.33 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil diogelwch cladin
Dechreuodd yr eitem am 15.44
NDM7828
Rhys
ab Owen (Canol De Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peter
Fox (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM7841
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi:
a) Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021;
b) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021;
c) Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst 2021;
d) Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 3 Medi 2021;
e) Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021;
f) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021; ac
g) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7840 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig yn unig.
2. Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru.
3. Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:
a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein, erbyn 2023;
b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu hawdurdod lleol;
c) sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.
Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
9 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Crynodeb o Bleidleisiau
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM7839 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: dechrau sgwrs genedlaethol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2021